Sioe newydd gan Meleri Wyn James fydd cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.

Daeth y cyhoeddiad wrth i’r awdures boblogaidd gynnal gweithdy yn Ysgol Henry Richard, Tregaron gyda disgyblion blwyddyn 3 a 4, i ddathlu Diwrnod y Llyfr.

Na, Nel! – yn Achub y Byd! yw teitl y sioe deuluol fydd yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf ym Mhafiliwn y Brifwyl yn Nhregaron ar nos Wener, Gorffennaf 31.

Mae hi’n sioe am ferch fach ddireidus o’r enw Nel sy’n gymeriad poblogaidd yn llyfrau Meleri Wyn James.

Gyda’r Eisteddfod yn ceisio hyrwyddo’r amgylchedd drwy ymgyrchoedd fel #drastigarblastig a #llenwinidlluchio, bydd y sioe’n dilyn yr un trywydd gyda thema amgylcheddol.

“Dw i wedi bod yn mynd â chymeriad Nel i’r Eisteddfod Genedlaethol ers sawl blwyddyn bellach,” meddai Meleri Wyn James.

“Ac rwyf wrth fy modd y bydd hi a’i ffrindiau yn cael cyfle i ddiddanu’r gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn am y tro cyntaf – mae’r plant sy’n ei nabod yn gwybod ei bod hi’n un fach ddireidus, felly gobeithio y gallwn ni ymddiried ynddi i fihafio ei hun…

“Disgwyliwch lot fawr o hwyl a direidi, cerddoriaeth a chanu – a sawl syrpreis cyffrous iawn – mewn sioe â neges amgylcheddol gref.”