Mae Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd wedi ymddiheuro wedi i un o’i swyddogion bostio gwybodaeth yn uniaith Saesneg ar ei thudalen facebook.

Sefydlwyd y Gymdeithas yn 1980 ar gyfer pobol sy’n ymddiddori yn hanes teuluoedd, ac mae aelodau yn talu £12 y flwyddyn am gymorth i hel achau.

Mae ganddyn nhw Ystafell Ymchwil yn Llyfrgell Caernarfon, maen nhw yn cyhoeddi Gwreiddiau Gwynedd Roots yn ddwyieithog ac mae eu gwefan yn Gymraeg a Saesneg hefyd.

Fe welodd un o ddarllenwyr cylchgrawn Golwg bwt gan y Gymdeithas ar facebook yn ddiweddar, ac ymateb trwy ofyn pam bod y neges ond ar gael yn Saesneg, a chael yr ymateb:

“Plis peidiwch a codi twrw Celt Roberts. Fedrai diddymu eich enw. Mae aelodau drwy y byd i gyd ac mae yn anodd plesio pawb. Diolch.”

Ar ôl derbyn yr ymateb mi gysylltodd Celt Roberts o Dalsarnau yng Ngwynedd gyda Golwg er mwyn tynnu sylw at y sefyllfa.

“Roedd y neges yn croesawu aelodau newydd, ac yr un gwynt yn nodi rhai pethau fel lle’r oedd eu stafell gyfarfod nhw yng Nghaernarfon, sef yn y llyfrgell,” eglura Celt Roberts.

“Roedd o’n baragraff reit hir, y cyfan yn uniaith Saesneg…

“Roedd hwnna yn wybodaeth i bobol leol. Doedd [manylion stafell y Gymdeithas yng Nghaernarfon] ddim yn wybodaeth i Americanwyr nag oedd, achos doedd o ddim o ddefnydd iddyn nhw…

“Wel, gwybodaeth leol i bobol leol – pam ar y ddaear mawr mae hi yn ei roi o’n Saesneg?

“Dw i’n ofni eu bod nhw wedi colli golwg ar beth maen nhw yn drio ei gyflawni.

“Alla i ddim dychmygu ymhél â hanes Cymru yn Saesneg…

“O gofio mai cymdeithas ydy hon yn ymwneud â hanes Cymru, mae gofyn cael polisi cwbl gadarn sy’n sicrhau bod gweinyddwyr y safle yn cynnwys y Gymraeg yn eu cyflwyniadau a thrwy hynny yn dangos parch tuag at yr iaith Gymraeg.”

“Codi twrw”

Mae gan Celt Roberts air o gyngor i’r Gymdeithas.

“Mi fyddwn i hefyd yn awgrymu’n gryf y dylai rhywun gael gair â gweinyddwyr y safle arbennig yma ynglŷn â sut i ymateb i unigolion sy’n troi i mewn ac yn gwneud ymholiadau a sylwadau.

“Beth bynnag arall ydw i – dydw i ddim yn un am “godi twrw”… ond, mi wna i beth sydd raid i geisio sicrhau nad ydy ein hiaith ni yn cael ei thrin yn israddol.”

Polisi Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd ydy cyhoeddi popeth yn Gymraeg a Saesneg ar y We, yn ôl y Cadeirydd.

“Os oes yna neges swyddogol gan y Gymdeithas yn mynd i fyny ar facebook, y polisi ydy ei fod o’n ddwyieithog,” meddai Mair Read.

“Ac rydan ni yn ymddiheuro bod yna lithriad wedi bod yn hyn o beth.”