Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi datgan argyfwng hinsawdd byd-eang yn dilyn cyfarfod o’r Cyngor ddoe (dydd Iau, Mawrth 5).

Mae’r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i sicrhau bod Ceredigion yn awdurdod lleol carbon sero erbyn 2030 yn ogystal â datblygu cynllun i geisio cyrraedd targed o sero o ran allyriadau carbon o fewn 12 mis.

“Rwy’n falch iawn bod Cyngor Sir Ceredigion wedi datgan argyfwng hinsawdd byd-eang,” meddai arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn.

“Mae gennym nifer o brosiectau yr ydym yn gweithio tuag atynt ar hyn o bryd i sicrhau ein bod yn lleihau ein hallyriadau carbon ymhellach fyth.”

Ategodd y Cynghorydd Mark Strong drwy ddweud: “Mae’r datganiad yma yn cydymffurfio gydag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn i wneud yn siŵr ein bod yn lleihau ein defnydd carbon yn sylweddol.”

Mae’r datganiad yn cefnogi dwy o Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor, sef Buddsoddi yn Nyfodol y Bobl a Hyrwyddo Cydnerthedd Amgylcheddol a Chymunedol.