Mae trefnwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cyhoeddi pwy fydd beirniaid y gystadleuaeth sy’n dathlu doniau llenyddol awduron Cymru eleni.

Cyn-olygydd Radio Cymru, Betsan Powys, ynghyd â’r cyflwynydd Siôn Tomos Owen, y Prifardd a Phennaeth Adran y Gyfraith Aberystwyth Emyr Lewis, a’r gantores a’r gyfansoddwraig Casi Wyn fydd yn gyfrifol am ddewis y llyfrau Cymraeg.

Beirniaid y llyfrau Saesneg fydd Martin Shipton, prif ohebydd y Western Mail; Ken Wilson-Max, yr awdur a’r darlunydd; Sampurna Chattarji yr awdur a’r cyfieithydd; a Tiffany Murray yr Ysgolhaig Fulbright a Chymrawd Gŵyl y Gelli.

Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, ac am y tro cyntaf eleni bydd categori Plant a Phobl Ifanc.

Bydd rhestr fer pob categori’n cael eu cyhoeddi ar 11 Mai 2020, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Aberystwyth ar 25 Mehefin.