Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos marwolaeth dyn 32 oed yng Nghaernarfon.

Roedd plismyn wedi cael eu galw i eiddo yn ardal Ffordd Bangor o’r dref am 7.30 y bore yma, lle cafodd corff y dyn ei ddarganfod.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru fod y farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad iddi, gan ddweud nad oedd ganddo ragor o fanylion i’w hychwanegu ar hyn o bryd.