Mae gêm sy’n debyg i Top Trumps wedi cael ei chreu ar gyfer plant Cymru gan ddefnyddio cymeriadau o lyfrau Cymraeg i blant.

Cafodd y ‘Cardiau Brwydro’ eu cyhoeddi gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer Diwrnod y Llyfr yfory (dydd Iau, Mawrth 5), a’u hanfon am ddim at bob ysgol a llyfrgell yng Nghymru, a nifer cyfyngedig i siopau.

Maen nhw wedi eu hanelu at blant 7 – 11 oed yn bennaf ond yn addas i “unrhyw un”.

“Y bwriad yw dathlu darllen a llyfrau, a’r hwyl sydd i’w gael o’u cwmpas, ac mae hwn yn rhyw fath o arf i bobol eu defnyddio yn hwylus, a dechrau trafodaeth o’i gwmpas,” meddai Angharad Sinclair, Rheolwr Prosiect Cynlluniau Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau.

Mae croestoriad o gymeriadau yn y cardiau o Siôn Blewyn Coch a Wil Cwac Cwac o gyfrolau Llyfr Mawr y Plant 1939, 1949 a 1975; Sali Mali, y Pry Bach Tew a Tomos Caradog; Cadwgan y Llygoden o’r Lleuad, SuperTed a Rala Rwdins o’r 1980au; a’r  cymeriadau cyfoes Nel, Cadi, Miss Prydderch a Begw Haf a rhai o gymeriadau Cyw, Dona Direidi, Rapsgaliwn, Sam Tân, a Norman.

“Mae nifer cyfyngedig gyda ni wedi’u printio allan,” meddai Angharad Sinclair.

“Felly’r cyntaf i’r felin yw hi.”

Llyfr am £1

Bydd dau lyfr plant hefyd ar gael am £1 – Darllen gyda Cyw gan Anni Llŷn a Stori Cymru: Iaith a Gwaith gan Myrddin ap Dafydd, sy’n rhoi rhywfaint o hanes Cymru a gwaith ei phobol drwy gyfrwng stori, llun a chân.

“Ro’n ni’n trio anelu at oedrannau gwahanol, ac mi o’n ni’n teimlo bod hwn yn gyfle i ddod â hanes Cymru i mewn i’r sgwrs yna o ran dathlu darllen, a meddwl am ddarllen er pleser,” meddai Angharad Sinclair am y cyfresi o lyfrau Cyw a Stori Cymru.

Mae’r Cyngor Llyfrau yn dathlu Diwrnod y Llyfr drwy gymell ysgolion, siopau llyfrau, colegau, busnesau a llyfrgelloedd i ymuno yn yr ymgyrch sy’n cael ei gynnal ledled Prydain ac Iwerddon.

“I’r Cyngor Llyfrau, heb ddarllenwyr brwd dyw’r diwydiant cyhoeddi ddim yn gallu bodoli, felly mae’n bwysig i ni annog darllen, a darllen er pleser yn benodol,” meddai Angharad Sinclair. “R’yn ni i gyd yn gwybod bod darllen yn bwysig, ond heb eich bod chi’n mwynhau rhywbeth – dyw e ddim yn gallu sefydlu ei hun yn rhywbeth pwysig yn eich bywyd chi. Felly mae dathlu darllen yn bwysig am y rheswm hynny.”

Stori: Non Tudur