Mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, wedi ail-ddatgan ei chefnogaeth i ymgyrch sy’n galw am weithredu i wella diogelwch ar hyd yr A487.

Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae dwy ddamwain angheuol wedi bod ar y ffordd sy’n cysylltu Maentwrog a Gellilydan.

Mae dros 5,000 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am welliannau i’r ffordd, a bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Deisebau Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf gan Sioned Wyn Williams, a gollodd ei merch a’i chwaer mewn damwain ar y ffordd ddwy flynedd yn ôl.

‘Pryder lleol’

“Mae consensws ymhlith y gymuned leol bod yn rhaid gwneud rhywbeth sylweddol i leihau nifer y damweiniau,” meddai Liz Saville Roberts.

“Mae’r gefnogaeth eang i’r ddeiseb hon yn dangos cryfder pryder lleol.

“Mae pobl eisiau gweld camau pendant yn cael eu cymryd i leihau nifer y damweiniau difrifol ac atal colli bywyd pellach ar hyd y ffordd brysur hon.”

Mesurau diogelwch

Mae’r Asiantaeth Cefnffyrdd eisoes wedi cyflwyno rhai mesurau diogelwch ar hyd y ffordd, gan gynnwys cyfyngiad cyflymder o 40mya ac arwyneb gwrth-sgid.

Maen nhw hefyd wedi gosod dyfais i gasglu data ar gyflymder cerbydau.

Er bod yr Aelod Seneddol yn croesawu’r gostyngiad mae wedi galw am ragor o fesurau diogelwch ar y ffordd.

“Rwy’n adleisio galwadau bod angen mesurau diogelwch pellach cyn gynted â phosibl, gan gynnwys edrych ar osod camerâu cyflymder cyfartalog”, meddai.

“Mae’n ddyletswydd ar lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i wella ein seilwaith ffyrdd sy’n heneiddio”

Ychwanegodd Mabon ap Gwynfor sydd wedi bod yn help â’r ymgyrch, “Mae gen i barch enfawr at y bobl sy’n ymwneud â’r ymgyrch hon. Maent wedi dangos dewrder wrth sicrhau bod y mater hwn yn cael ei drafod ym Mhwyllgor Deisebau’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Mae angen sicrhau bod gyrwyr yn parchu’r terfyn cyflymder newydd, a’r ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny yw trwy gyflwyno camerâu cyflymder cyfartalog, sydd wedi profi i fod yn llwyddiannus mewn mannau eraill.”