Mae’r band Genesis wedi cyhoeddi y byddan nhw’n teithio am y tro cyntaf ers 13 o flynyddoedd – ond fyddan nhw ddim yn dod i Gymru.

Ond byddan nhw’n teithio yn Iwerddon, Lloegr a’r Alban.

Mae’r daith yn dechrau yn Nulyn ar Dachwedd 16 ac yn gorffen yn Glasgow ar Ragfyr 11.

Mae Genesis yn un o’r bandiau mwyaf llwyddiannus erioed, gydag oddeutu 100 miliwn o’u halbyms wedi gwerthu ledled y byd.

Daeth y band yn ôl at ei gilydd yn 2007 ar ôl bron i ddeng mlynedd ar gyfer eu taith Turn It On Again.

Bydd tocynnau’r daith ar werth am 9 o’r gloch fore Gwener (Mawrth 6).

Manylion y daith yn llawn

Dydd Llun, Tachwedd 16      Dulyn, 3 Arena

Dydd Iau, Tachwedd 19        Belffast, SSE Arena

Dydd Llun, Tachwedd 23      Lerpwl, M&S Bank Arena

Dydd Iau, Tachwedd 26        Newcastle, Utilita Arena

Dydd Sul, Tachwedd 29        Llundain, The O2

Dydd Llun, Tachwedd 30      Llundain, The O2

Dydd Mercher, Rhagfyr 2      Leeds, First Direct Arena

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 5       Birmingham Utilita Arena

Dydd Mawrth, Rhagfyr 8       Manceinion, Manchester Arena

Dydd Gwener, Rhagfyr 11     Glasgow, SSE Hydro