Mae dros 100 o grwpiau o ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru wedi dangos diddordeb mewn ymchwilio i ddulliau mwy effeithlon o weithio neu gyflwyno technolegau newydd.

Byddai hyn yn digwydd drwy gyfres o brosiectau sector-benodol, wedi’u hariannu gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru.

Ers lansio’r rhaglen yn 2016, mae dros 30 o geisiadau grŵp ar gyfer amryw o brosiectau ar hyd a lled Cymru wedi cael eu cymeradwyo.

Yn ôl Lynfa Davies, pennaeth rhaglen Bartneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru ar ran Cyswllt Ffermio, mae dros 150 o ffermwyr, coedwigwyr a garddwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau wedi’u hariannu gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop.

“Rwy’n hynod falch o nifer ac ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd hyd yma, sy’n adlewyrchu penderfyniad y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant i ganfod a gweithredu cyfleoedd newydd i wella effeithlonrwydd a chynyddu proffidioldeb ar yr adeg dyngedfennol hon, wrth i’r diwydiant baratoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd a ddisgwylir yn gyffredinol pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

Prosiectau

Enghraifft o brosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yw ymchwil i geisio codi gwerth defaid o flaen cyfnod ansicr economaidd.

Mae’r grŵp hefyd wedi cael llwyddiant wrth reoli mamogiaid godro i gynhyrchu caws.

“Cafodd ein grŵp Agrisgôp gychwyn addawol, a arweiniodd at nifer ohonom yn dechrau darparu llaeth dafad i gynhyrchwyr caws arbenigol,” meddai Alan Jones.

“Rydym yn awr yn adeiladu ar yr wybodaeth a gafwyd, na allem fod wedi’i wneud mor llwyddiannus heb gefnogaeth EIP Cymru.”

Manteision derbyn arian

Mae’r grŵp wedi derbyn yr uchafswm o £40,000 dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae hyn yn ariannu cyngor gan brif arbenigwyr y Deyrnas Unedig, a’u galluogi i fonitro ansawdd y llaeth a gwella proffil bacterioleg y llaeth a gynhyrchwyd gan bob aelod.

Gall y sawl sy’n awyddus i ddatblygu syniadau i wella perfformiad eu busnes dderbyn nawdd o hyd at 80% i unigolion neu 100% i grwpiau

Ar ben hynny, mae mynediad i gyngor ar brosiectau arallgyfeirio a nifer o bynciau sector-benodol ar gael drwy raglen fentora un i un sy’n cael ei ariannu gan Cyswllt Ffermio.