Mae Liz Saville Roberts wedi croesawu camau gan yr Awyrlu i leihau nifer yr awyrennau sy’n hedfan yn isel dros Arfon, Eifionydd a Phen Llŷn.

Daw hyn wedi cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion am effaith yr awyrennau yn etholaeth Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.

Fe wnaeth Liz Saville Roberts gynnal cyfarfod yn San Steffan gyda’r Comodor Awyr Adrian Williams a’r Arweinydd Sgwadron, Albie Fox cyn y cyhoeddiad.

Ac roedd hi wedi bod yn lobïo’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn sgil cynnydd mewn cwynion gan etholwyr ym Mhen Llŷn ynghylch awyrennau dan hyfforddiant yn hedfan yn isel, gan achosi aflonyddwch sŵn sylweddol.

Gosod harneisiau diogelwch

Mae hi wedi cael ar ddeall fod yr Awyrlu wrthi’n gosod harneisiau diogelwch newydd i’w hawyren Texan 1.

Mae hyn yn golygu y bydd yr awyren yn cydymffurfio â safonau diogelwch Prydeinig ac yn gallu hedfan dros y môr, gan arwain at ostyngiad mewn hediadau dros y tir, gan leihau llygredd sŵn.

“Er fy mod yn llwyr werthfawrogi bod hedfan awyrennau Texan yn agwedd annatod o raglen hyfforddi’r RAF, rwyf wedi annog y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r RAF dro ar ôl tro i wneud popeth o fewn eu gallu i liniaru’r effaith ar drigolion lleol,” meddai Liz Saville Roberts.

“Ar ôl cyfarfod â’r RAF yn San Steffan, fe’m hanogir fod camau rhagweithiol yn cael eu cymryd i osod yr offer angenrheidiol ar yr awyren Texan i ganiatáu hedfan dros y môr, a thrwy hynny, leihau’r effaith ar ardaloedd poblog.”