Mae peth oedi o hyd i deithwyr ar drenau yng Nghymru yn dilyn y llifogydd diweddar, ond mae’r brif linell rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae Trafnidiaeth Cymru’n cynghori teithwyr i wirio trefniadau cyn teithio, a gadael mwy o amser ar gyfer teithiau heddiw (dydd Sul, Mawrth 1) ac yfory (dydd Llun, Mawrth 2).

Mae difrod i’r llinell yn Aberdâr ac mae gweithwyr yn gwirio’r safle yn ystod y dydd.

Mae gwasanaethau i mewn ac allan o Aberpennar wedi’u canslo am weddill y dydd o ganlyniad i dirlithriad, gyda theithiau’n dod i ben ym Mhontypridd, a bws yn cludo teithwyr am weddill y daith arferol.

Yn y gogledd, mae llinell Dyffryn Conwy ynghau, a bws yn cludo teithwyr rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog am y tro.

‘Gweithio rownd y rîl’

“Yn dilyn llifogydd mewn sawl ardal ledled Cymru o ganlyniad i law trwm a pharhaus ar dir oedd eisoes yn wlyb iawn, mae ein timau rheng flaen wedi bod yn gweithio rownd y rîl i agor llinellau sydd wedi cael eu heffeithio,” meddai llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru.

“I gwsmeriaid nad oedd modd iddyn nhw deithio ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 29), bydd eu tocynnau’n cael eu derbyn ac yn ddilys i deithio heddiw (dydd Sul, Mawrth 1) a dydd Llun.

“Gall cwsmeriaid â thocynnau tymor ar gyfer gwasanaeth Aberdâr ddefnyddio’u tocyn i deithio ar unrhyw lwybr rhesymol arall ar wasanaeth Llinell y Cymoedd.

“Rydym yn cydweithio’n agos er mwyn lleihau unrhyw anghyfleustra a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw cwsmeriaid i symud ac wedi’u diweddaru, ond mae’r sefyllfa’n newid o hyd ac felly, mae’n debygol y bydd gwasanaethau’n cael eu heffeithio gan newidiadau munud olaf.

“Mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i wirio’u taith cyn teithio, ar nationalrail.co.uk neu journeycheck.com/tfwrail.

“Hoffem ddiolch i gwsmeriaid ymlaen llaw am eu hamynedd ac am ddeall.”