Mae cerddwr 19 oed wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn y Barri ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 29).

Fe gafodd ei daro gan Citroën C1 lliw glas ar ffordd A4226 am 2.30yb.

Mae ei deulu’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu, wrth iddyn nhw apelio am dystion i’r ffordd roedd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, a gwybodaeth am ddau gerddwr yn yr ardal ar y pryd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth neu ddeunydd dashcam ffonio Heddlu’r De ar 101.