Mae’r barnwr yn achos llofruddiaeth Gerald Corrigan, 74, yn dweud bod ei lofrudd yn “amddifadu ei deulu o eglurhad”.

Cafodd Terence Whall ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug i oes o garchar gan Mrs Ustus Jefford, a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf 31 o flynyddoedd dan glo am y llofruddiaeth “erchyll” â bwa croes yn ei gartref ym Môn ar Ebrill 19 y llynedd.

“Rydych wedi amddifadu teulu Mr Corrigan o unrhyw eglurhad ynghylch yr hyn oedd yn farwolaeth erchyll lle’r oedd Mr Corrigan heb unrhyw fai,” meddai wrth ei ddedfrydu.

“Am eich rhesymau chi eich hun, mae’n amlwg fod gennych chi gynllun i ladd.”

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i dwyll honedig ar ôl i Gerald Corrigan a’i bartner Marie Bailey roi £250,000 i’r twyllwr Richard Wyn Lewis.

“Dyfalu” yw’r honiadau bod lladd Gerald Corrigan yn ymgais i gelu’r honiadau hynny neu fod Terence Whall wedi cael ei dalu i ladd, meddai’r barnwr.

Ond yn ôl erlynwyr, mae lle i gredu y byddai Gerald Corrigan wedi mynd at yr heddlu i adrodd am y twyll yn ei erbyn.

‘Targedu’ Gerald Corrigan

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw’n cadw “meddwl agored” ynghylch y ddamcaniaeth fod Gerald Corrigan wedi cael ei dargedu’n fwriadol.

Yn ystod yr achos llys, fe ddaeth i’r amlwg fod planhigion canabis yn cael eu tyfu ar dir Gerald Corrigan, ond ei fod yn dymuno eu symud ar ôl cael gwybod pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.

“Yn amlwg, roedd rhywun eisiau i Gerald Corrigan farw,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Mae hyn yn amlwg mewn cyd-destun ehangach fod y dioddefwr, Gerald, yn destun niwed neu niwed posib i droseddwyr lleol.”

Dedfrydau

Mae Terence Whall wedi’i gael yn euog hefyd o wyrdroi cwrs cyfiawnder am gynllwynio i roi Land Rover ar dân.

Cafodd Gavin Jones, 36, ei garcharu am bum mlynedd am gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder, ac mae ei frawd Darren Jones, 41, wedi’i garcharu am ddwy flynedd a deg mis am dân bwriadol.

Cafodd Martin Roberts, 35, ei ddedfrydu ar ei ben-blwydd i ddwy flynedd a phedwar mis dan glo am dân bwriadol.

Yn ôl Darren Jones a Martin Roberts, roedden nhw o’r farn eu bod nhw’n rhoi’r cerbyd ar dân fel rhan o dwyll yswiriant.