Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n dweud bod “mesurau cadarn” yn eu lle er mwyn ymateb i’r coronavirus, yn dilyn cadarnhad o’r achos cyntaf yng Nghymru.

Mae dyn o Abertawe, sydd â chysylltiadau ag ysgol uwchradd Bishop Gore yn y ddinas, yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn Lloegr ar ôl bod yng ngogledd yr Eidal.

Daw’r cadarnhad yn dilyn adroddiadau bod tŷ yn ardal y Mwmbwls ger y ddinas dan warchae.

Fe fu penaethiaid a phrif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cyfarfod ddoe (dydd Gwener, Chwefror 28) i baratoi eu hymateb i’r sefyllfa.

Mae coronavirus yn cynnwys symptomau tebyg i ffliw gan gynnwys twymyn, peswch neu anhawster anadlu.

Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos bod y mwyafrif o achosion yn ysgafn.

‘Paratoi’n dda’

“Yn gynharach heddiw, derbyniodd awdurdodau lleol ddiweddariad gan Brif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru, y GIG a Llywodraeth Cymru i weithredu’r ymateb sydd eisoes wedi’i gynllunio,” meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Llywodraeth Leol Cymru.

“Hoffwn sicrhau trigolion bod Cymru, ynghyd â gweddill y DU, wedi paratoi’n dda ar gyfer digwyddiad o’r math hwn, gyda mesurau cadarn i reoli heintiau yn eu lle er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

“Os oes gan y cyhoedd unrhyw bryderon, mae’r holl wybodaeth a’r cyngor diweddaraf i’w cael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.”