Ar drothwy diwrnod ein nawddsant mae Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wedi dymuno “Dydd Gŵyl Dewi Hapus”.

Daeth y cyfarchiad yn ystod digwyddiad arbennig yn 10 Stryd Downing ddoe, lle bu sawl Cymro a Chymraes yn cymryd rhan.

Ymhlith y rheiny a fu yno roedd plant ysgol, cynrychiolwyr Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, a’r gyflwynwraig sydd wrthi’n dysgu Cymraeg, Carol Vorderman.

Hefyd yn eu plith yr oedd cynrychiolwyr o fusnesau a chyrff yng Nghymru gan gynnwys Snowdonia Cheese Company, Boss Brewing, Zip World ac Ambiwlans Awyr Cymru.

Llwyddiannau “anhygoel”

“Mae llawer ohonoch yn rhedeg busnesau ffantastig, ac yn barod mae gan Gymru enghreifftiau o lwyddiant sy’n eithaf anhygoel,” meddai Boris Johnson wrth yr ymwelwyr.

“Meddyliwch am y pethau mae Cymru eisoes yn gwneud, a dychmygwch beth allwn wireddu gyda’n gilydd. Diolch am ddod a Dydd Gŵyl Dewi Hapus.”

Roedd Cennin Pedr yn addurno coridorau 10 Stryd Downing, ac roedd baner Cymru yn chwifio y tu allan i’r adeilad.