Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn eu cefnogaeth ariannol at Aston Martin, wrth iddi ddod i’r amlwg fod y cwmni wedi gwneud colled y llynedd.

Yn ôl y Llywodraeth fe fydd gweithlu’r cwmni cynhyrchu ceir yng Nghymru, yn dyblu i 600 yn y misoedd nesaf.

Mae gan y cwmni ceir safle cynhyrchu ym Mro Morgannwg, ac mae Llywodraeth wedi darparu bron i £20m o grantiau – arian y trethdalwr – iddo.

Yr wythnos hon mae wedi dod i’r amlwg bod Aston Martin wedi gwneud colled o £104.3m y llynedd, ac yn sgil hyn mae Andrew RT Davies wedi galw am ymchwiliad.

Ond mae’r Llywodraeth wedi wfftio’r gofidion, ac wedi datgan bod ganddyn nhw hyder yn y cwmni.

Cynhyrchu ceir

“Roedd y ffaith bod Aston Martin wedi symud i Sain Tathan yn bleidlais o hyder yn sgiliau gweithlu Cymru ac yng Nghymru ei hun,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’r cwmni’n bwriadu dyblu maint ei weithlu yn Sain Tathan i fwy na 600 erbyn mis Ebrill ac rydym yn edrych ymlaen at weld y cyntaf o’r modelau DBX newydd yn dod oddi ar y llinell gynhyrchu yn ddiweddarach eleni.”