Mae’r achos cyntaf o goronafeirws wedi’i gadarnhau yng Nghymru, gyda’r claf yn ardal Abertawe.

Roedd yr unigolyn wedi teithio yn ôl i Gymru o ogledd yr Eidal lle mae dros 200 o achosion bellach wedi’u cofnodi.

Fydd dim rhagor o fanylion am yr unigolyn yn cael eu rhyddhau, a hynny er mwyn gwarchod ei gyfrinachedd.

Bellach mae 19 o achosion wedi’u cadarnhau yng ngwledydd Prydain.

Brynhawn ddoe cadarnhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 263 o bobol yng Nghymru wedi derbyn profion am y firws hyd yn hyn.

“Paratoi’n dda”

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle i sicrhau’r cyhoedd bod Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi paratoi’n dda ar gyfer digwyddiad o’r math hwn,” meddai Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton.

“Gan gydweithio â’n partneriaid yng Nghymru a’r DU, mae’r ymateb yr oeddem wedi paratoi ar ei gyfer wedi cael ei roi ar waith ac mae gennym fesurau cadarn i reoli heintiau er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.”

Cyngor Llywodraeth Cymru

“Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ganfod yn gynnar achosion sydd wedi cyrraedd yma o dramor a’u hynysu i osgoi unrhyw ledaeniad pellach,” meddai Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru.

“Roedd disgwyl y datblygiad diweddaraf hwn a dylai pobl barhau i ddilyn ein cyngor – os ydych wedi dychwelyd o ardal yr effeithir arni neu os ydych yn pryderu’ch bod wedi bod mewn cysylltiad agos ag achos sydd wedi’i gadarnhau, ni ddylech fynd i’ch meddygfa nac i Adrannau Brys ysbytai.

“Dylech ffonio Galw Iechyd Cymru  ar 0845 46 47 neu 111 Cymru, os yw ar gael yn eich ardal. Bydd gwneud hyn yn golygu’ch bod yn cael eich asesu gan y staff cywir yn y Gwasanaeth Iechyd wrth hefyd gyfyngu ar y posibilrwydd o’i ledaenu i eraill.

“Gall pawb helpu i leihau’r siawns o ledaenu unrhyw feirws anadlol. Y cyngor yw ei ddal, ei roi yn y bin, ei ladd a golchi’ch dwylo.”