Dydy “marwolaeth sydyn” unigolyn yng Nghaerdydd heddiw (dydd Iau, Chwefror 27) ddim yn cael ei chysylltu â’r coronavirus, yn ôl Heddlu De Cymru.

Bu farw unigolyn yn Hendre Close, Llandaf, am 10.15 fore heddiw, ond mae’r heddlu’n mynnu nad yw’n gysylltiedig â’r firws sydd ar led yn Ewrop.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau nad oes yna’r un achos o’r haint wedi’i gofnodi yng Nghymru hyd yma.

Mae 263 o bobol yng Nghymru wedi derbyn profion am y firws, ac mae pob prawf wedi arwain at ganlyniad negyddol.

Mae 15 o achosion wedi’u cadarnhau yng ngwledydd Prydain.