Mae Aelod Cynulliad wedi apelio ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn sgil rhybuddion gan gorff arolygu addysg, Estyn.

Mae Meilyr Rowlands, y Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddi, wedi dadlau bod disgyblion o gartrefi difreintiedig yn dal i gael canlyniadau gwaeth na disgyblion o deuluoedd cyfoethocach.

Ac ymhlith disgyblion sy’n derbyn cinio am ddim, mae 32% yn llai yn pasio tri TGAU da – gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg, a Mathemateg – o gymharu â disgyblion yn gyffredinol.

Bellach mae Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru Arfon, wedi galw ar y Llywodraeth i dalu sylw i’r gofidion yma.

‘Ystadegau ysgytwol’

“Ni all Llywodraeth Cymru anwybyddu’r ystadegau ysgytwol hyn sy’n cadw cenhedlaeth arall o’n plant mewn tlodi,” meddai.

“Dyma pam mae Plaid Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i fynd i’r afael â thlodi plant a hynny fel blaenoriaeth.

“Mae’n rhaid i ni fuddsoddi mewn Addysg Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant o ansawdd uchel i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n plant o ble bynnag maen nhw’n dod – a hynny ar frys.”

Dadl gweinidogion Llywodraeth Cymru yw bod y bwlch rhwng disgyblion tlotach a chyfoethocach yn llai yng Nghymru nag y mae mewn gwledydd eraill.