Mae’r gwariant ar nyrsys asiantaeth yn y canolbarth “allan o bob rheolaeth”, yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol.

Gwariodd byrddau iechyd dros £20m ar nyrsys asiantaeth yn y rhanbarth honno yn ystod 2019, yn ôl gwybodaeth sydd wedi’i chaffael drwy gais rhyddid gwybodaeth gan Wales Online.

Mae’r ffigwr “yn dod â dŵr i’r llygaid”, yn ôl Andrew RT Davies, Aelod Cynulliad y Canolbarth.

Mae’r ffigurau yn dangos y gwariant mewn gwahanol ardaloedd yn ystod y flwyddyn y llynedd:

  • Caerdydd a’r Cymoedd: £9,610,204
  • Cwm Taf Morgannwg: £11,776,000

Ond drwy Gymru gyfan, mae’r FOI yn dangos fod byrddau iechyd wedi gwario swm sylweddol iawn o £69.04 miliwn ar nyrsys asiantaeth yn 2019.

‘Dod â dŵr i’r llygaid’

“Mae rhain yn symiau sydd yn dod â dŵr i’r llygaid,” meddai Andrew RT Davies, Aelod Cynulliad Canolbarth De Cymru.

“Byddai’n llawer gwell gwario’r arian yna ar ofal i gleifion.

“Mae nyrsys asiantaeth yn llawer drytach na chyflogi’n barhaol, ac mae angen i’r ddau fwrdd iechyd yn ne Cymru gyfiawnhau pam eu bod yn cadw gwario fel hyn yn lle recriwtio’r nyrsys sydd eu hangen ar ein hysbytai.

“Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi bod yn gyfrifol am redeg y bwrdd iechyd ers 20 mlynedd, ond mae’n amlwg nad ydi eu polisïau’n gweithio.

“Mae prinder staffio ar draws Cymru yn ganlyniad uniongyrchol o un Gweinidog Iechyd Llafur Cymru ar ôl y llall yn methu cynllunio’n iawn ar gyfer gofynion ein gweithlu yn y GIG; mae’n hollol amlwg nad ydyn nhw’n addas ar gyfer y swydd.”