Mae’r achos llys yn erbyn wyth o bobol sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio Harry Baker yn y Barri wedi cael ei ddirwyn i ben.

Mae’r rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd wedi cael eu hanfon adref am “resymau cyfreithiol”, ac mae disgwyl i’r achos ddechrau o’r newydd yr wythnos nesaf.

Cafwyd hyd i gorff y llanc 17 oed o Gaerdydd yn ardal y dociau yn y Barri ar Awst 28 y llynedd.

Dydy’r barnwr ddim wedi datgelu beth yn union yw’r “rhesymau cyfreithiol” gan y bydd rhaid dewis rheithgor newydd cyn dechrau’r achos eto.

Mae Raymond Thompson (47), Lewis Evans (61), Ryan Palmer (33), Peter McCarthy (36), Leon Clifford (22), Nathan Delafontaine (32), Leon Symons (21) a llanc 16 oed yn gwadu llofruddio.

Mae chwech ohonyn nhw’n gwadu anhrefn dreisgar, tra bod Lewis Evans hefyd yn gwadu cynorthwyo troseddwr.