Fe fydd Heddlu’r De yn derbyn cyfran o gronfa gwerth £41.5m i fynd i’r afael â throseddau treisgar.

Maen nhw’n un o 18 o heddluoedd fydd yn rhannu’r swm, ond dydy hi ddim yn glir eto faint fydd pob ardal yn ei dderbyn.

Daw’r cyhoeddiad gan Priti Patel, Ysgrifennydd Cartref San Steffan.

Dywed y Swyddfa Gartref y bydd yr arian yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer mesurau ychwanegol megis cynyddu nifer y plismyn ar y strydoedd.

Yr heddluoedd eraill sy’n derbyn arian yw Llundain, West Midlands, Manceinion, Glannau Mersi,  Gorllewin Swydd Efrog, De Swydd Efrog, Northumbria, Thames Valley, Swydd Gaerhirfryn, Essex, Avon a Gwlad yr Haf, Caint, Swydd Nottingham, Swydd Gaerlŷr, Swydd Bedford, Sussex a Hampshire.