Does neb wedi gwrthwynebu cynllun i gyfuno dwy ysgol Saesneg yn y Drenewydd.

Bydd Cabinet Cyngor Sir Powys yn cyfarfod yr wythnos nesaf i drafod cynlluniau i greu ysgol gynradd Saesneg newydd drwy gyfuno Ysgol Fabanod Ladywell Green ac Ysgol Gynradd Hafren.

Bydd y cynnig yn cael ei ystyried ddydd Mawrth nesaf (Mawrth 3).

Gan na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau, bydd gofyn iddyn nhw gymeradwyo’r cynnig presennol, allai arwain at agor yr ysgol newydd yn 2021 ar safleoedd presennol yr ysgolion.

Byddai’r ysgol newydd ar gyfer disgyblion rhwng pedair ac 11 oed.

Ar hyn o bryd, mae yna 94 o ddisgyblion yn adran y babanod a 145 yn yr adran iau.

‘Cymeradwyo’

“Roedd canlyniad yr ymarfer ymgynghori y gwnaethom ei gynnal y llynedd wedi awgrymu mai’r hoff ddewis yw cyfuno Ysgol Fabanod Ladywell Green ac Ysgol Iau G.G. Hafren ac i sefydlu ysgol gynradd newydd ar safleoedd cyfredol y ddwy ysgol,”  meddai’r Cynghorydd Phyl Davies.

“Ni chawsom unrhyw wrthwynebiadau i’n cynnig felly fy argymhelliad i’r Cabinet yw eu bod yn cymeradwyo cyfuno’r ddwy ysgol i greu ysgol gynradd newydd.”