Fe fydd achos llys yr wyth sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio Harry Baker yng Nghasnewydd yn parhau am yr ail ddiwrnod heddiw (dydd Mercher, Chwefror 26).

Clywodd Llys y Goron Casnewydd ar y diwrnod cyntaf i’r llanc 17 oed gael ei gwrso am filltir drwy dref cyn cael ei guro a’i drywanu i farwolaeth gan griw o bobol yn sgil ffrae.

Cafwyd hyd i’w gorff yn ddiweddarach yn Nociau’r Barri.

Mae Leon Clifford (22), Ryan Palmer (23), Leon Symons (31), Peter McCarthy (36), Lewis Evans (61), Raymond Thompson (47), Nathan Delafontaine (32) a llanc 16 oed i gyd yn gwadu iddyn nhw ei lofruddio.

Amlinellu achos yr erlyniad

Ar ddiwrnod cynta’r achos, eglurodd Paul Lewis ar ran yr erlyniad beth oedd staff y dociau wedi ei weld ar ôl cyrraedd y gwaith ar Awst 28 y llynedd.

Roedd Harry Baker, meddai, yn gorwedd ar lawr ar ôl cael ei drywanu droeon a’i ddillad wedi cael eu tynnu oddi arno.

Mae’r erlynwyr yn dweud iddo gael ei dargedu’n fwriadol.

Cafwyd hyd i ddwy gyllell â’i waed arnyn nhw ger safle’r ymosodiad ac mae lle i gredu iddyn nhw gael eu symud o gegin Lewis Evans.

Mae’r erlynwyr hefyd yn honni bod Leon Clifford a’r llanc 16 oed, nad oes modd ei enwi, yn cario cyllyll.

Cafodd Ryan Palmer ei weld yn cario darn o bren â gwaed arno, ac fe roddodd e ail ddarn o bren i Peter McCarthy.

Dywed yr erlynwyr iddyn nhw lofruddio Harry Baker yn sgil ffrae tros gyffuriau, ar ôl iddo ddechrau gwerthu ar “dir” y criw yn y Barri.

Clywodd y llys fod Leon Clifford a Leon Symons yn gwerthu cyffuriau yn yr ardal leol.

Dywed erlynwyr nad oes rhaid profi pa un o’r criw oedd wedi trywanu Harry Baker.

Maen nhw i gyd yn gwadu ei lofruddio, ac mae pump ohonyn nhw’n gwadu cyhuddiad o anhrefn dreisgar.

Mae Lewis Evans hefyd yn gwadu cyhuddiad o gynorthwyo troseddwr.

Mae’r achos yn parhau.