Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi cyfarfod â’r Farwnes Vere i drafod dyfodol Canolfan Brawf Caernarfon.

Bu’r ddau yn trafod yr anawsterau y gallai gyrwyr loriau, bysus a hyfforddwyr gyrru lleol eu hwynebu petai’r ganolfan brawf, y DVSA, yng Nghaernarfon yn cau.

Pe bai’r ganolfan yn symud o Gaernarfon, bydd disgwyl i ddarpar yrwyr wneud eu prawf yn Wrecsam.

Mae gan ddeiseb ar-lein sy’n gwrthwynebu cau’r ganolfan dros 700 o lofnodion, ac mae’r cynllun wedi’i feirniadu gan y diwydiant cludo lleol.

“Rwy’n croesawu’r cyfle i gwrdd â’r Gweinidog Gwladol yn yr Adran Drafnidiaeth i bwyso arni am bwysigrwydd cadw Canolfan Brawf y DVSA yng Nghaernarfon,” meddai Hywel Williams.

“O’r rhai yr effeithir arnyn nhw’n uniongyrchol gan y bygythiad yma i’r diwydiant cludo yn ehangach, mae pryderon dilys ynghylch yr effaith posib o gau’r ganolfan ar fusnesau lleol.”