Mae llofrudd Gerald Corrigan yn cael ei annog i ddatgelu pam iddo ladd y cyn-ddarlithydd â bwa croes yn ei gartref yn Ynys Môn.

Cafwyd Terence Wall, 39, yn euog yn Llys y Goron yr Wyddgrug o lofruddio’r dyn 74 oed wrth iddo symud disgl lloeren y tu allan i’w gartref ar Ebrill 19 y llynedd.

Fe wnaeth yr achos llys bara dros fis.

Mae ymchwiliad cysylltiedig ar y gweill i dwyll ariannol, ar ôl honiadau bod Gerald Corrigan a’i bartner Marie Bailey wedi rhoi mwy na £250,000 i Richard Wyn Lewis.

Yn ôl yr heddlu, mae’n bosib fod Gerald Corrigan wedi cythruddo troseddwyr lleol.

‘Dyn cyffredin yn mwynhau ei ymddeoliad’

“Y rheswm pam fod y newyddion am y saethu’n gymaint o sioc oedd ei fod o, i ni, yn ddyn mor dda,” meddai ei ferch Fiona.

“Dyn cyffredin oedd yn mwynhau ei ymddeoliad.”

Mae lle i gredu bod Richard Wyn Lewis wedi prynu tir o eiddo Gerald Corrigan a’i fod yn tyfu canabis ar y tir hwnnw, ond ei fod e wedi symud y ffatri pan sylweddolodd Gerald Corrigan raddfa yr hyn oedd yn digwydd yno.

Mae Terence Wall a Gavin Jones wedi’u cael yn euog o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl bwriadu rhoi car Terence Wall ar dân, ac roedden nhw, ill dau, yn ffraeo â Richard Wyn Lewis am arian.

Roedd Terence Wall, sy’n dod o Lundain yn wreiddiol, yn gwadu iddo gyfarfod â Gerald Corrigan cyn ei farwolaeth ar Fai 11 y llynedd.

Ond clywodd y llys iddo aros y tu allan i’w gartref yn aros amdano, ac roedd tystiolaeth o’i system llywio lloeren yn profi hynny.

Fe wnaeth bollt o’r bwa croes daro Gerald Corrigan yn ei fraich cyn achosi anafiadau difrifol i’w galon.

Plediodd Darren Jones a Martin Roberts yn euog i gyhuddiad o achosi tân bwriadol.

Bydd y ddau, ynghyd â Gavin Jones, yn cael eu dedfrydu ddydd Gwener (Chwefror 28).