Mae gwleidyddion yng Nghymru’n pwyso ar Ysgrifennydd yr Amgylchedd yn San Steffan i gynnal adolygiad brys o bob safle lle bu gweithfeydd glo yn y gorffennol.

Daw’r alwad ar George Eustice yn dilyn llifogydd difrifol yn y de ac ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y mater wedi cael ei drafod gan Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, a’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

Mae aelodau seneddol Llafur yn galw am neilltuo arian er mwyn osgoi trychineb fel Aberfan, gyda rhannau helaeth o’r de dan ddŵr dros yr wythnosau diwethaf ers i Storm Dennis daro.

Ond mae George Eustice yn mynnu bod y mater wedi’i ddatganoli i’r Senedd yng Nghaerdydd.

Yn ôl Chris Elmore, aelod seneddol Aberogwr, mae gan Lywodraeth Prydain gyfrifoldeb am warchod yr holl safleoedd lle bu gweithfeydd glo gynt.

Ffrae

“Dydy ein hardal erioed wedi cael ei tharo gan lifogydd a thirlithriadau fel rydyn ni wedi’u gweld ac allai fy nghymuned a’m hawdurdod lleol fyth fod wedi paratoi ar gyfer cymaint â hyn o law a dinistr,” meddai Alex Davies-Jones, aelod seneddol Pontypridd.

Gofynnodd hi wedyn a fyddai George Eustice yn fodlon ariannu adolygiad brys “er mwyn sicrhau diogelwch ein holl gymunedau”.

Ond cafodd hi ei chyhuddo gan y Fonesig Eleanor Laing, y Dirprwy Lefarydd, o “weiddi” cyn i George Eustice ymateb.

“Mae ymateb i lifogydd ac ymdrin â chanlyniadau llifogydd yn fater sydd wedi’i ddatganoli,” meddai hwnnw wedyn.

“Ond mae gyda ni drefnadau ledled y Deyrnas Unedig i gefnogi ein gilydd pan fo un ardal yn cael ei heffeithio’n benodol ond os hoffai hi ysgrifennu ata’ i gyda’i hawgrymiadau, byddwn yn fwy na pharod i drafod hynny gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru.”

Ond cafodd barn Alex Davies-Jones ei hategu gan Chris Elmore, a ddywedodd fod gan Lywodraeth Prydain ddyletswydd i ymateb.

“Felly a ga’ i ofyn i’r ysgrifennydd gwladol gytuno i ymchwilio i’r safleoedd hyn?

“Fe fu tirlithriadau dros y dyddiau diwethaf, ac i sicrhau, os oes angen arian, y bydd y safleoedd hyn yn aros yn ddiogel, oherwydd dydyn ni ddim eisiau ailadrodd yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn ein hanes ni yng Nghymru.”

‘Camau ar y cyd’

Mae George Eustice wedi cytuno i gymryd “camau ar y cyd” â Llywodraeth Cymru.

“Wrth gwrs ein bod ni i gyd yn ymwybodol o’r hanes ofnadwy yn ymwneud â’r mater hwn, a gallaf gadarnhau fod Ysgrifennydd Cymru wedi cyfarfod â’r Prif Weinidog [Mark Drakeford] lle’r oedd hyn yn un o’r materion a gafodd ei drafod.

“Rydym wedi ategu ein cynnig i helpu ac ar y mater penodol hwn o ardaloedd glofeydd a risg llifogydd yn yr ardaloedd hynny, fe fydd camau ar y cyd o ran hynny.”