Mae’r tywydd garw yn parhau i achosi trafferthion ar draws y wlad gyda sawl prif ffordd yn y gogledd, canolbarth a’r de ynghau oherwydd llifogydd neu dirlithriadau.

Ac nid y ffyrdd yn unig sy’n wynebu anawsterau yn dilyn y glaw trwm dros y dyddiau diwethaf. Does dim gwasanaethau trên yn Nhonypandy yn Rhondda Cynon Taf oherwydd dwr dros y cledrau.

Ac mae Ysgol Uwchradd Caereinion yn y Trallwng wedi gorfod cau heddiw (Chwefror 24) oherwydd y trafferthion difrifol i deithwyr, gyda’r bysiau yn gorfod cludo’r disgyblion yn ôl adref wedi 9:30 bore ‘ma.

Mae’r trafferthion yma yn dilyn cyfres o stormydd a thywydd garw dros y tair wythnos diwethaf, ac mae ardaloedd sydd wedi eu heffeithio eisoes gan y tywydd yn parhau i wynebu effeithiau’r glaw.

Mae 15 o rybuddion llifogydd mewn grym ar draws y wlad o hyd, gyda rhagolygon y tywydd yn addo mwy o  wynt a glaw a rhai cawodydd gaeafol.