Mae canolfan seiber arloesol yng Nglynebwy wedi cyfrannu £1m i’r economi leol,  meddai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates.

Daw’r cyhoeddiad  heddiw (Chwefror 24) i nodi blwyddyn gyntaf y Ganolfan Genedlaethol Manteisio ar Dechnoleg (NDEC) sydd werth £20miliwn.

Yn ol y Gweinidog mae’r NDEC hefyd wedi sicrhau fod 20 o’i 53 o gyflenwyr lleol yn dod o Lynebwy, a bod 90% o staff ei busnesau newydd yn dod o’r ardal.

Mae Llwyodraeth Cymru a cwmni Thales wedi ymrwymo £10 miliwn i sefydlu’r ganolfan. Mae Thales  wedi cael contract gyda GE Steam Power, un o brif gwmnïau pŵer y byd, i sicrhau diogelwch seiber ei gyfleusterau craidd.

Daw elfennau pwysig o’r gwaith hwnnw i Gymru, i’w wneud gan y tîm yn yr NDEC, meddai Victor Chavez, Prif Weithredwr Thales UK.

“Rydym yn gweld Cymru, a’r NDEC yn arbennig, yn rhan hanfodol o bresenoldeb Thales yn y Deyrnas Unedig. Mae’r NDEC yn hanfodol i ddatblygu galluoedd diogelwch digidol fydd yn dod â gwaith cenedlaethol a rhyngwladol i Lynebwy.”

“O fyfyrwyr PhD i brentisiaid, ac o staff i gyflenwyr,” meddai Ken Skates, “mae’r NDEC yn gatalydd ar gyfer twf technoleg a llwyddiant economaidd yn y cymoedd. Mae’r ganolfan yn ganolog i fenter y Cymoedd Technoleg a fydd yn helpu i weddnewid economi’r De yn un o ymchwil a datblygu, arloesi a ffyniant tymor hir. Bydd y ganolfan yn rhoi sylfaen wych ar gyfer gwneud hyn.”