Mae Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad Llafur Cymru wedi galw ar y Canghellor, Rishi Sunak am arian ychwanegol yn dilyn llifogydd diweddar yn Rhondda Cynon Taf.
Yn yr ardal hon mae 25% o’r holl eiddo sydd wedi’i effeithio yng ngwledydd Prydain.
Mae dwsinau o fusnesau wedi’u heffeithio, ac mae Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Tâf yn wynebu bil o £30m ar gyfer gwaith atgyweirio.
Y cyfalaf cyffredinol sydd ar gael yn flynyddol i’r cyngor yw £13.4m, ac mae’r llythyr yn nodi pryderon y gall tirlithriadau ddigwydd yno.
“Mae nifer o gymunedau Rhondda Cynon Taf ymhlith y tlotaf yn y Deyrnas Unedig,” medd y llythyr.
“Mae gyda ni lefelau uchel o ddiweithdra a thangyflogaeth.
“Mae cyflogau cyfartalog yn isel ond gyda phoblogaeth sy’n heneiddio a lefel uchel o gyflyrau iechyd, mae pwysau mawr ar wasanaethau cyhoeddus.
“Cyfanswm cyllideb Rhondda Cynon Taf yw £500m yn unig, a’r rhan fwyaf yn mynd at ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, sy’n gadael ychydig iawn o le i ymdrin â’r fath argyfwng cenedlaethol ar stepen ein drws.”
Ymateb y Llywodraeth
Mewn ymateb i’r llythyr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Mae’r Llywodraeth wedi cyfathrebu gyda’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru – gan gynnwys y Prif Weinidog – trwy gydol yr wythnos ddiwethaf mewn ymateb i’r llifogydd.
“Er bod amddiffynfeydd llifogydd a’r ymateb i lifogydd yng Nghymru wedi’u datganoli, byddwn yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru ynghylch y llifogydd a diogelwch y safleoedd glo.”
Mae’r llythyr yn gofyn am bedwar peth sef grant isadeiledd o £30m, i’r Adran Waith a Phensiynau beidio â thynnu arian yn ôl gan y rhai sydd wedi’u heffeithio, atal taliadau treth y cyngor a chyfraddau busnes am flwyddyn i’r rhai sydd wedi’u heffeithio, ac adolygiad sydd wedi’i ariannu gan y Llywodraeth o’r holl gyn-safleoedd glo ar draws de Cymru.
Er bod y mater wedi’i ddatganoli, mae’r llythyr yn gofyn i holl wledydd Prydain gyfrannu er mwyn helpu’r ardal Rhondda Cynon Tâf.
Mae’r llythyr wedi’i arwyddo gan y canlynol:
Chris Elmore – Aelod Seneddol Ogwr
Chris Bryant – Aelod Seneddol Rhondda
Beth Winter – Aelod Seneddol Cwm Cynon
Alex Davies-Jones – Aelod Seneddol Pontypridd
Mick Antoniw – Aelod Cynulliad Pontypridd
Vikki Howells – Aelod Cynulliad Cwm Cynon
Huw Irranca-Davies – Aelod Cynulliad Ogwr
Andrew Morgan – Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf