Er bod pryderon am lifogydd wedi lleihau mewn sawl rhan o’r gogledd, mae’r sefyllfa wedi dwysáu yn y canolbarth yn ystod y dydd.

Mae bellach saith o rybuddion coch – sy’n galw am weithredu ar unwaith – mewn grym yn nyffrynnoedd Hafren ac Efyrnwy yng ngogledd Powys.

Mae rhybuddion tebyg yn nyffryn Dyfrdwy hefyd islaw Llangollen ac ym Mangor Is-y-Coed.

Ar y llaw arall, cafodd saith o rybuddion gwyliadwriaeth llifogydd eu dileu yn ystod y dydd o dref Llanrwst a chymunedau eraill yn nyffryn Conwy, dalgylchoedd afonydd Clwyd, Elwy a Gele ac ardal Dolgellau.

Mae wyth rhybudd gwyliadwriaeth o’r fath yn dal mewn grym yn y Bala a dalgylchoedd afonydd Dyfi, Dysynni, Mawddach ac Wnion, Glaslyn a Dwyryd, Conwy a Dyfrdwy Uchaf.

Yn y cyfamser, parhau mewn grym mae rhybudd melyn am law trwm yn holl siroedd y de a’r canolbarth ac eithrio Sir Benfro. Fodd bynnag, mae disgwyl y bydd y gwaethaf drosodd erbyn canol y bore, gan fod y Swyddfa Dywydd wedi newid yr amser y daw i ben o 3 y pnawn i 11 y bore.