Mae dau o barciau siopa mwyaf Cymru wedi cael eu gwerthu wrth i’w perchennog geisio lleihau cyfanswm o £3 biliwn o ddyledion.

Mae’r Hammerson, un o gwmnïau eiddo mwyaf Prydain, yn cael gwared ar naw o barciau, gan gynnwys Parc Cyfarthfa ym Merthyr Tudful a Pharc Tawe yn Abertawe.

Mae’r pris o £455 miliwn a gafodd y cwmni am y naw parc hyn yn 22% yn is na’r gwerth a roddwyd arnyn nhw yn yr haf.

Mae gwerth cyfranddaliadau Hammerson hefyd wedi gostwng 40% dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r cyfan yn arwydd clir fod parciau siopa y tu allan i drefi yn dioddef yn ogystal â’r stryd fawr wrth i arferion siopa newid. Daw yn sgil adroddiadau am siopau mor adnabyddus â Marks and Spencer hyd yn oed yn bwriadu cynnal llai o siopau wrth i fwy o’u gwerthiannau symud ar-lein.