Mae’r gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Davies, wedi amddiffyn y Prif Weinidog Boris Johnson am beidio ag ymweld ag ardaloedd sydd wedi eu taro gan lifogydd.

“Ddylai gwleidyddion neu actorion ddim cymryd arnynt eu bod yn weithwyr achub,” meddai David Davies, AS Mynwy, etholaethau sy’n cynnwys rhai o’r ardaloedd a ddioddefodd y llifogydd gwaethaf.

“Pe bai Boris Johnson wedi ymddangos gyda chriw teledu a llwyth o bobl yn cymryd selfies ar ganol cyrch achub, mi fyddai pobl yn gofyn beth yn y byd mae’n ceisio’i wneud.

“Yn enwedig pan fo prif weithredwr Sir Fynwy, un o’r lleoedd i gael eu taro waethaf, wedi gofyn yn benodol i wleidyddion gadw draw hyd nes bydd y gwaith achub wedi cael ei wneud.”

Datganoli

Awgrymodd hefyd na ddylai llywodraeth Prydain roi’r argraff eu bod yn ymyrryd mewn materion sydd wedi eu datganoli.

“Fel gweinidog yn Swyddfa Cymru a chyn-aelod o’r Cynulliad fy hun, dw i’n gwybod yn dda pa bethau mae’r Cynulliad a llywodraeth Prydain yn gyfrifol amdanyn nhw.

“Dw i’n ymwybodol iawn o sensitifrwydd gweinidogion llywodraeth Prydain fel fi, neu Boris Johnson o ran hynny, yn dod yma yn ceisio cymryd arnom ein bod yn gyfrifol am bethau sy’n gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

“Yn gyntaf, mae’r peth anghywir i’w wneud ac yn ail, mae’n difrodi’r berthynas sydd rhyngom ni.”