Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi rhoi sêl bendith i gais o £1.2 miliwn er mwyn adeiladu pont newydd dros Afon Rhyd-hir ar yr A497 ger Boduan.

Bydd y cais yn cael ei ystyried gan y Cyngor llawn ar Fawrth 5, ac mae disgwyl i gais cynllunio yn cael ei gyflwyno cyn bo hir.

“Rwy’n falch o weld ein bod yn datblygu prosiect hynod o bwysig i ddatblygu pont newydd dros Afon Rhyd-hir ar y brif ffordd rhwng Nefyn a Phwllheli. Mae hwn yn ffordd o bwys i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal yma o Wynedd,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager.

“Edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau ar gyfer y bont newydd.”

“Her fawr”

Mae gwaith adnewyddu’r hen bont restredig gradd II ar yr A497 eisoes wedi dechrau, a’r disgwyl yw y bydd yn ail-agor i’r cyhoedd fis Mehefin.

Yn y cyfamser, mae gyrwyr yn defnyddio’r bont dros-dro mae Cyngor wedi ei osod.

Cafodd yr hen bont ei chau i draffig ddiwedd Ionawr 2019 oherwydd difrod strwythurol a gosodwyd pont dros-dro dros yr afon, sydd dal i gael ei defnyddio.

Dywed Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd, Steffan Jones: “Dioddefodd Pont Bodfel ddifrod strwythurol sylweddol o ganlyniad i ysgwrio o dan sylfaeni’r bont.

“Gan ei fod yn bont gerrig tri-bwa rhestredig sy’n dyddio’n ôl i’r 19eg ganrif, mae ei hadnewyddu wedi bod yn her fawr.”