Mae cyflwynydd newyddion Sky News wedi cael ei beirniadu ar ôl dweud mai’r Gymraeg yw’r “iaith fwyaf annefnyddiol”.

Roedd Isabel Webster yn cyfweld ag Alex Rawlings, sy’n awdur teithio, pan ofynnodd hi iddo pa ieithoedd oedd “yr iaith fwyaf ddefnyddiol, yr iaith fwyaf anodd a’r iaith fwyaf annefnyddiol i’w dysgu”.

Roedd yr eitem yn trafod ieithoedd ar Ddiwrnod Mamiaith y Byd.

Wrth ateb dywedodd Alex Rawlings mai Almaeneg a Sbaeneg yw’r ieithoedd fwyaf defnyddiol iddo eu dysgu gan eu bod nhw’n “cwmpasu’r rhan fwyaf o Ewrop”.

Yr iaith fwyaf anodd, meddai, oedd Hwngareg “sy’n wahanol iawn i bob iaith Ewropeaidd arall ac mae’n cymryd cryn amser i ddysgu’r holl eiriau”.

Y cwestiwn olaf

Gofynnodd Alex Rawlings i Isabel Webster ailadrodd y cwestiwn olaf ac wrth ailadrodd y cwestiwn, dywedodd hi, “Mae pobol yn fy nghlust newydd ddweud Cymraeg, haha”.

“Cymraeg?” meddai Alex Rawlings wedyn.

“Dw i’n caru’r iaith Gymraeg a mynd i Gymru.”

Gofynnodd hi wedyn, “Ydych chi’n siarad Cymraeg?”

“Dw i’n gwybod nifer o eiriau fel ‘brechdan’ a dw i’n gwybod hynny o fynd i Tesco yng Nghymru.

“Dw i ddim yn credu bod y fath beth â iaith annefnyddiol yn bod.

“Os gallwch chi ddefnyddio iaith i siarad â phobol yna mae hi’n ddefnyddiol.

“Os gallwch chi ddefnyddio iaith i ddysgu am ddiwylliant pobol, yna mae hi’n ddefnyddiol.

“Does dim ots pa mor fawr neu fach yw’r gymuned honno.

“Dw i’n falch iawn o’r ffaith fod gyda ni, yn y Deyrnas Unedig, ieithoedd brodorol fel Cymraeg, Gaeleg, Gwyddeleg a’u bod nhw’n cael eu hybu ac yn rhan o’r wlad hon, a dw i am weld hynny’n parhau.”

Amddiffyn ei sylwadau

Yn dilyn y cyfweliad, mae Isabel Webster wedi ymateb i neges wreiddiol Alex Rawlings yn mynegi ei fod yn “syfrdan”.