Mae’r Manic Street Preachers, y band o’r Coed Duon, wedi rhoi £3,000 tuag at gronfa sydd wedi’i sefydlu yn sgil llifogydd yn nhref Pontypridd.

Cafodd y dudalen ei sefydlu gan Alex Davies-Jones, aelod seneddol y dref, i helpu’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

Roedd gan y dudalen darged wreiddiol o godi £5,000 ond bellach, mae dros £23,500 wedi cael ei godi.

Ymhlith yr enwogion eraill sydd wedi cyfrannu mae’r actores Vicky McClure (Line of Duty) a’i phartner Jonny Owen, sydd wedi rhoi £500.

Un arall sydd wedi rhoi £500 yw’r Arglwydd Kinnock, cyn-arweinydd y Blaid Lafur.

Mae ymgyrch arall wedi’i sefydlu gan yr actor Michael Sheen, ac mae’r dudalen honno hefyd wedi dyblu ei tharged i £10,000 ers ei sefydlu.