Mae dyn 33 oed o Lanelli wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru’n beryglus.

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi apelio am wybodaeth yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol yr Orsaf yn Llanelli yn oriau man fore dydd Mawrth, Chwefror 18.

Mae dyn yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi’r gwrthdrawiad.

Cafodd y dyn ei arestio ddydd Mercher (Chwefror 19) a’i ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw lygad dystion sydd heb gysylltu a nhw yn barod, i’w ffonio ar 101 gan nodi’r cyfeirnod DP-20200218-006.