Bu cynrychiolwyr o awdurdodau lleol yng Nghymru yn mynychu cyfarfod brys wedi’i drefnu gan y Prif Weinidog ddydd Iau (Chwefror 20) i gydlynu ymdrechion i ymateb i’r dinistr achoswyd gan Storm Ciara a Storm Dennis.

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa argyfwng i sicrhau bod y rhai hynny sydd wedi cael eu heffeithio waethaf yn derbyn y gefnogaeth y maen nhw ei angen ar frys.

Achosodd Storm Ciara lifogydd trwm gan darfu’n ddifrifol ar lawer o ardaloedd yng ngogledd Cymru’r wythnos diwethaf, gydag amddiffynfeydd llifogydd yn cael eu bygwth a llifogydd difrifol ar draws y rhanbarth.

Cafodd nifer sylweddol o dai a busnesau ar draws Cymru hefyd eu difrodi gan lifogydd.

Mae awdurdodau lleol ar hyn o bryd yn gweithio i asesu’r effaith ariannol ar gymunedau, gyda’r ffigwr terfynol yn debyg o fod yn sawl miliwn.

Cyngor

Mae rhybuddion tywydd yn parhau i fod mewn grym mewn rhai ardaloedd wrth i’r tywydd ansefydlog barhau. Y cyngor i drigolion yw dilyn unrhyw ddiweddariadau neu negeseuon gan eu hawdurdod lleol wrth i’r sefyllfa barhau i fod yn beryglus mewn sawl ardal.

Dywed y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC): “Er ei bod yn dal yn rhy gynnar i wybod yn llawn raddfa’r difrod a achoswyd gan y stormydd, dengys rhagolygon cynnar bod miloedd o eiddo a busnesau, ynghyd ag isadeiledd allweddol megis gweithiau dŵr, priffyrdd a phontydd, wedi cael eu heffeithio’n ddrwg.

“Mae’n mynd i gymryd amser i adfer ac ailadeiladu yn llawn, a bydd llywodraeth leol yn parhau i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid perthnasol eraill.”