“Defnyddiwch eich penolau yn gywir” oedd y cyngor annisgwyl i yrwyr gan wasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru ar ffyrdd a thraffyrdd y bore yma.

“Tywydd gwael” oedd pennawd neges drydar Traffig Cymru, a oedd yn esbonio fod “gennym amodau gyrru gwael ar draws y rhwydwaith gyda gwynt a glaw” cyn nodi’r cyfarwyddyd cryptig.

Cyn i yrwyr orfod crafu gormod ar eu pennau, fodd bynnag, roedd un gair bach wedi cael ei newid yn y neges yn hwyrach yn y bore a oedd yn rhoi ystyr newydd a chliriach iddi:

“Defnyddiwch eich goleuadau yn gywir”.

Mae’n debyg y byddai “Defnyddiwch eich geiriau yn gywir” yn gyngor yr un mor ddoeth  i unrhyw gorff cyhoeddus.