Mae dyn 49 oed o Aberystwyth wedi’i ddedfrydu i chwe blynedd o garchar ar ôl cyfaddef bod â heroin yn ei feddiant gyda’r bwriad o werthu.

Cafodd Gary Bagnall ei arestio ar drên fis Hydref diwethaf, wrth deithio yn ôl i Aberystwyth o ardal West Bromwich.

Ar ôl cael ei arestio, fe wnaeth yr heddlu ddarganfod bag plastig yn cynnwys 3.29g o heroin a fu yn ei feddiant. Daeth yr heddlu hefyd o hyd i eitemau yn ymwneud â chyffuriau a brofodd yn bositif o weddillion heroin yng nghartref Gary Bagnall.

Dangosodd ei gofnodion ffôn symudol iddo deithio 26 o weithiau i ardaloedd y Trallwng, Wrecsam a Smethwick rhwng mis Awst a Hydref gyda’r bwriad o ddod hyd i gyffuriau i’w dosbarthu ymlaen yn ardal Aberystwyth.

“Rhybudd i eraill”

Dywedodd yr Heddwas, Samuel Garside: “Mae mynd i’r afael â mater cyflenwi cyffuriau yn ein cymunedau yn flaenoriaeth i’r heddlu yng Ngheredigion.

“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn rhybudd i eraill sy’n dymuno dod â chyffuriau i mewn i ardal Ceredigion.”