Mae’r actor Michael Sheen wedi lansio ymgyrch crowdfunding i helpu pobl ac ardaloedd sydd wedi cael eu taro gan lifogydd ledled Cymru.

“Mae ffrindiau a theulu imi wedi dioddef yn ne Cymru a’m gobaith i yw y gallwn godi arian i helpu gyda’r ymdrechion achub,” meddai’r actor sy’n enedigol o Port Talbot.

Fe ddaeth i enwogrwydd am ei ran yn y ffilm Frost/Nixon ac am chwarae rhan Tony Blair, a thros y blynyddoedd diwethaf mae hefyd wedi bod yn flaenllaw mewn ymgyrchoedd gwleidyddol.

“Er mor dorcalonnus yw gweld lluniau’r difodiant sy’n cael ei achosi gan y llifogydd, dw i hefyd yn cael fy atgoffa pam dw i’n caru’r genedl hon gymaint,” meddai.

“Dw i’n gweld pobl yn gweithio gyda’i gilydd i helpu eu ffrindiau a’u cymdogion. Dw i’n gweld cymunedau’n dod at ei gilydd ac yn helpu ei gilydd.

“Er mwyn parhau’r gwaith hanfodol yma, mae’r grwpiau a’r sefydliadau sy’n helpu pobl Cymru angen ein cymorth ar frys.”

Bydd yr holl arian a gaiff ei godi o’r ymgyrch yn mynd at Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – mudiad y mae Michael Sheen wedi bod yn llywydd arno ers 2017.

Fe fydd wedyn yn cael ei ddosbarthu i gymunedau ledled Cymru gyda’r flaenoriaeth i’r rheini sydd wedi cael eu taro waethaf.

Gellir cyfrannu at y gronfa ar www.gofundme.com/helpwalesafterstormdennis