Defnyddio gwastraff o ffermydd llaeth i dyfu planhigion a fydd yn darparu porthiant maethlon i anifeiliaid fferm – gan helpu gwarchod yr amgylchedd yr un pryd.

Dyna yw nod prosiect newydd sydd ar droed gan wyddonwyr IBERS, y Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r prosiect “Brainwaves” yn cael ei arwain gan Dr Dylan Gwynn-Jones, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio gyda Choleg Prifysgol Cork yn Iwerddon i ymchwilio i’r modd y gellir gwneud gwell defnydd o slyri a’r dŵr gwastraff a ddaw o’r diwydiant llaeth. Y gobaith yw gwella gallu’r diwydiant cig eidion a llaeth yng Nghymru ac Iwerddon gynhyrchu porthiant sydd o fudd economaidd. Byddai hyn hefyd yn lleihau dibyniaeth ffermwyr ar fewnforio porthiant uchel mewn protein fel soia.

Bydd y prosiect gwerth £1.375m, sy’n cael ei ariannu gan raglen Interreg Iwerddon-Cymru yr UE, yn defnyddio gwastraff fferm i dyfu planhigyn biomas sy’n tyfu’n gyflym, y gellir wedyn ei ddefnyddio fel ffynhonnell protein ar gyfer bwydo da byw.

Yn ôl y gwyddonwyr, mae manteision amgylcheddol posib hefyd oherwydd gallai defnyddio’r cynnyrch gwastraff ar y fferm arwain at welliant yn ansawdd y dŵr mewn afonydd ac ardaloedd arfordirol Cymru ac Iwerddon.

Wrth gyhoeddi’r prosiect, dywedodd Dr Dylan Gwynn-Jones

“Rydym wedi ein cyffroi gan botensial yr ymchwil hwn sy’n ceisio helpu’r diwydiant amaethyddol yn y ddwy wlad trwy ddatblygu technoleg i gynhyrchu bwyd anifeiliaid o wastraff. I bob pwrpas, bydd yn galluogi ffermwyr i ‘wneud arian o faw’.”