Mae Plaid Cymru wedi cael dirwy o £29,000 gan y Comisiwn Etholiadol ar ôl iddyn nhw gyflwyno “adroddion anghywir” am roddion gwerth £497,000.

Mae’n ymwneud â 36 o roddion i’r blaid dros gyfnod o ddwy flynedd.

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, fe wnaeth Plaid Cymru adrodd am y rhoddion ym mis Mai 2018, ond maen nhw dan y lach am “ddiffyg prosesau mewnol effeithiol” oedd wedi arwain at “fethu â deall y gofynion adrodd”.

Yn ôl Louise Edwards, cyfarwyddwr rheoleiddio’r Comisiwn Etholiadol, mae nifer a chyfanswm y rhoddion oedd wedi’u hepgor o adroddiadau chwarterol y blaid “yn sylweddol” ac yn dangos “elfen sylweddol o ddiffyg cydymffurfio”.

Mae disgwyl i Blaid Cymru dalu £29,268 erbyn Mawrth 2.

‘Diffyg tryloywder’

“Mae Plaid Cymru’n blaid sydd wedi’i hen sefydlu ac mi ddylai fod yn gallu ateb ei gofynion adrodd,” meddai Louise Edwards.

“Mae’n hanfodol y gall pleidleiswyr weld cofnodion ariannol llawn a chywir sy’n dangos o ble mae arian plaid wleidyddol yn dod.

“Roedd methiant parhaus Plaid Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd i ddeall ac ateb ei dyletswyddau cyfreithiol wedi arwain at ddiffyg tryloywder siomedig o ran arian y blaid.

“Gall pleidleiswyr fod yn hyderus y byddwn ni’n gweithredu pan fo pleidiau’n methu â chydymffurfio â’r rheolau a lle nad oes esboniad rhesymol.”

Ymateb Plaid Cymru

“Mae’r materion a amlygwyd gan y Comisiwn yn hanesyddol eu natur ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw roddion preifat,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.

“Cyn gynted ag y hysbyswyd Plaid Cymru, cywirodd y Blaid yr oruchwyliaeth hon ar unwaith ac rydym bellach yn cydymffurfio’n llawn.

“Adroddwyd yn llawn ar yr holl arian cyhoeddus yn Adroddiad Blynyddol y Blaid.”