Mae timau achub mynydd wedi tynnu dyn oedrannus allan o’i gartref ar ôl iddo fynd yn sownd yng nghanol llifogydd Trefynwy.

Aeth Peter Morgan yn sownd ar ôl i lefelau afon Gwy godi ar hyd yr A466 o ganlyniad i Storm Dennis.

Bu’n rhaid i dimau achub mynydd a’r gwasanaeth ambiwlans gydweithio i’w gael e allan o’r adeilad a’i gludo i ddiogelwch.

Roedd yn rhaid iddyn nhw dorri drws cefn ei gartref gyda gordd.

Cafodd ei archwilio gan staff meddygol wrth i’w gymdogion fynd i siopa yn archfarchnad Lidl mewn canŵ.