Mae arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ddiffyg buddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd.

Ac mae wedi awgrymu y dylen nhw gael trefn arbennig i drafod argyfyngau o’r fath, yn debyn i bwyllgor brys COBRA yn Whitehall.

Mae’n dweud ei fod yn bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru a ddylai Cymru gael system wladol “steil-COBRA” i ymateb i argyfyngau llifogydd er mwyn gallu cyd-drefnu ymateb ar draws holl awdurdodau cyhoeddus Cymru.

Ymweliad

Roedd yn siarad yn ystod yn ystod ymweliad gyda thrigolion Trehafod, ger Pontypridd, lle’r oedd llawer o dai wedi cael eu difrodi wrth i afon Rhondda orlifo.

Fe fu hefyd yn ymwled â chanolfan gymunedol lle’r oedd trigolion yn derbyn bwyd a diod gan wirfoddolwyr.

“D’yn ni ddim yn buddsoddi ar y raddfa sydd ei hangen,” meddai Adam Price. “Mae’r tywydd yn newid, mae’r ffaith nad yw pobol yn gallu cael yswiriant llifogydd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn adlewyrchu hynny.

“Yn anffodus, dw i ddim yn meddwl mai dyma’r tro olaf bydd cymunedau yn wynebu ôl-effaith trychinebus argyfyngau llifogydd.”