Mae Julie James, y Gweinidog Tai, wedi cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Chwefror 17) y bydd £24m ychwanegol yn cael ei roi i adeiladu mwy o dai fforddiadwy yng Nghymru.

Bydd y cyllid ychwanegol yn cyflymu cynllun Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy ar draws Cymru erbyn 2021.

Datgelodd Julie James heddiw fod:

  • 13,143 o’r 20,000 o’r tai fforddiadwy a addawodd y Llywodraeth erbyn 2021 wedi eu hadeiladu hyd at ddiwedd Mawrth 2019
  • Mae hyn yn cynnwys 2,592 o unedau tai fforddiadwy ar draws Cymru yn 2018/19- 12% yn fwy nag yn 2017/18 a’r nifer mwyaf yn flynyddol hyd yma

Cyllido

  • Bydd £6m o’r swm ychwanegol hwn yn cael ei neilltuo fel cyllid cyfalaf i’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol (GTC) – bydd hyn yn helpu i adeiladu 70 o gartrefi newydd ychwanegol ar draws Cymru
  • Mae’r arian hwn ar ben y £50m ychwanegol a neilltuwyd fel rhan o’r pecyn buddsoddiad cyfalaf a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019, sydd yn dod â chyfanswm y rhaglen grantiau’r GTC i £127.2m yn 2019/20.
  • Mae gwerth £17.8m o fenthyciadau yn mynd i’r cynlluniau Cymorth i Brynu Cymru a Benthyciad Eiddo.

Mae Cymorth i Brynu Cymru eisoes wedi pasio eu targed o gefnogi 6,000 o bobl i brynu cartref newydd, gan gwblhau mwy na 6,500 erbyn 30 Medi 2019.

Mae Julie James yn hapus eu bod ar y trywydd cywir tuag at eu targed o 20,000 o dai newydd fforddiadwy, gan fod 65% o’r tai eisoes wedi eu hadeiladu.

“Ond rydym yn awyddus i adeiladu mwy fyth o gartrefi, yn gyflym ac ar raddfa eang,” meddai.

“Bydd y buddsoddiad ychwanegol yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn golygu y bydd modd i ni wireddu’r addewid hwnnw, gan roi hwb i’r sector adeiladu a sicrhau bod pobl yn cael y cartrefi sydd eu hangen arnyn nhw, cartrefi sy’n eu galluogi i fyw bywydau iach, llwyddiannus a ffyniannus.

“Erbyn diwedd tymor y llywodraeth bresennol, mi fyddwn wedi buddsoddi mwy na £2 biliwn mewn tai ar draws Cymru – sydd yn arwydd clir o ba mor bwysig yw hi i ni ddarparu mwy o gartrefi o ansawdd uchel, a fydd yn ffurfio sail gadarn i gymunedau da ac yn fodd i unigolion a theuluoedd ffynnu ym mhob agwedd o’u bywydau.”