Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhybuddio teithwyr am gryn oedi ar deithiau ar hyn o bryd o ganlyniad i lifogydd yn sgil Storm Dennis, ac na ddylen nhw deithio “oni bai bod rhaid”.

Maen nhw’n cynghori teithwyr i wirio trefniadau cyn teithio ac i adael digon o amser ar gyfer y daith.

“Mae cwmseriaid hefyd yn cael eu cynghori i ddisgwyl cryn oedi ar rannau o’r rhwydwaith yn dilyn rhagor o law trwm dros nos ac, os oes modd, i wneud trefniadau teithio eraill,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

Mae’n nhw’n dweud y dylid osgoi gyrru ar nifer o heolydd a bod “trafnidiaeth ffordd gyfyngedig” ar gael yn lle trenau.

“Mae’n anochel fore heddiw y bydd rhai gwasanaethau yn destun cryn anghyfleustra a fydd yn arwain at oedi a chanslo,” meddai’r cwmni wedyn.

“Pan fydd trenau’n cael eu canslo neu’n dod i ben yn brin o’r cyrchfan, bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i ddarparu trafnidiaeth ffordd amgen lle bynnag y bo’n bosibl.”

Dyma’r teithiau sydd wedi’u heffeithio:

  • Mae llifogydd i’r gogledd o dref Pontypridd yn amharu ar deithiau i ardaloedd y Porth, Aberdâr a Merthyr Tudful
  • Glyn Ebwy i Crosskeys (oherwydd tirlithriad)
  • Casnewydd i Henffordd, lle bydd bws yn lle trên
  • Calon Cymru – llifogydd yn Nhrefyclo
  • Dyffryn Conwy – bws yn lle trên rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog
  • Cambria – bws yn lle trên o Amwythig i Aberystwyth ac o Fachynlleth i Bwllheli.