Mae cyflwynydd radio gyda gorsaf GTFM ym Mhontypridd yn dweud bod y dref “mewn lot o sioc” yn dilyn llifogydd difrifol yno.

Fe fu Ioan Dyer yn siarad â golwg360 yn dilyn noson o law trwm sydd wedi effeithio’r dref a rhannau helaeth o’r ardaloedd a’r cymoedd cyfagos.

Daw ei sylwadau ar ôl i Heledd Fychan, cynghorydd tref Pontypridd, gyhoeddi apêl ar dudalen Twitter Plaid Cymru yn gynharach heddiw.

“Ar hyn o bryd, mae’n edrych fel taw’r llefydd gwaetha’ yw ardal Trefforest, Nantgarw ac Ystad Ddiwydiannol Trefforest,” meddai Ioan Dyer.

“Mae’r brif ffordd o’r A470 i mewn i Nantgarw ar gau, mae ’na ddau gwch achub gan y dynion tân yn mynd o gwmpas yn tsiecio ceir yn y dŵr.

“Mae’r tai i gyd i lawr Oxford Street dan ddŵr, mae cwpwl o bobol dwi’n nabod wedi cael eu llawr cyntaf wedi’u difrodi ac maen nhw wedi gorfod gadael eu tai.

“Mae wedi dod dros y wal sydd fel arfer yn cadw dŵr.”

‘Sioc’

Yn ôl Ioan Dyer, mae yna “lot o sioc” ynghylch y sefyllfa, ac mae’n dweud nad yw “wedi gweld y fath lifogydd na thywydd erioed o’r blaen”.

“Mae lot o sioc am ba mor gyflym mae hyn wedi digwydd,” meddai.

“Ro’n i’n teithio’n ôl o Abertawe neithiwr ac es i drwy stryd lle mae badau achub tua 10 o’r gloch neithiwr ac erbyn 6 o’r gloch bore ’ma, roedd hi fel llyn.

“Dw i’n meddwl bod pobol wedi syfrdanu pa mor gyflym mae hyn wedi digwydd, a nerth afon Taf yr holl ffordd i lawr o Bontypridd, trwy Drefforest, Nantgarw, Ffynnon Taf a Radyr. Mae’r afon wedi gorlifo dros y lle i gyd.

“Mae pobol wedi cael sioc fawr.”

Llifogydd ger Trefforest
Llifogydd ger Ystad Ddiwydiannol Trefforest (Llun: Ioan Dyer / GTFM)

Y gymuned yn dod at ei gilydd

Wrth i’r gwasanaethau brys arwain y gwaith o geisio clirio’r dŵr a helpu pobol i adael eu cartrefi, dywed Ioan Dyer fod yr ymdeimlad o gymuned ym Mhontypridd a’r cymoedd cyfagos i’w weld yn amlwg.

“Beth sy’n arwyddocaol ac wedi cael sylw yw nifer y cynigion ar y we,” meddai.

“Mae ’na nifer o bobol dwi’n nabod yn cynnig ceir a gwneud unrhyw beth fel symud pethau neu roi lloches dros dro.

“Dw i’n credu bod nifer fawr iawn o dai wedi cael eu heffeithio fan hyn yn ardal Trefforest, canol Pontypridd hefyd a Stryd Berw sy’n arwain ma’s o Bontypridd i fyny’r cwm ar gau.

“Mae ceir yn nofio ar y dŵr.

“Yn Nantgarw, mae nifer o dai a busnesau yn cael eu heffeithio. Mae nifer sylweddol o adeiladau a busnesau bach ar yr ystad ddiwydiannol.

“Ro’n i’n gweld nifer o lorïau Gregg’s yn llwytho bwyd o’u ffatri sydd o dan ddŵr.

“Dw i’n meddwl bod pobol jyst yn gwneud beth maen nhw’n gallu.”

Fan bwyd mewn llifogydd yn Nantgarw
Fan bwyd yn y llifogydd yn Nantgarw (Llun: Ioan Dyer / GTFM)