Mae Heddlu Gwent yn rhybuddio pobol am law trwm a gwyntoedd cryfion dros y 24 awr nesaf.
Daw’r rhybudd ar eu tudalen Twitter, wrth i Storm Dennis symud ar draws y wlad.
“Gadewch amser ychwanegol ar gyfer teithiau gan y gall amodau gyrru fod yn wael,” medd yr heddlu.
Maen nhw’n cynghori pobol i droi at wefan y Swyddfa Dywydd am y rhagolygon diweddaraf.