Mae Heddlu’r Gogledd yn rhybuddio pobol na ddylen nhw fynd allan “oni bai ei bod yn gwbl angenrheidiol”.

Mae Storm Dennis yn parhau i achosi trafferthion i deithwyr ledled Cymru.

Yn ôl rhybudd yr heddlu, mae brigau’n cwympo ar y ffyrdd.

“Mae gwyntoedd cryfion dros ben ledled gogledd Cymru wedi arwain at falurion a brigau’n cwympo oddi ar goed, felly mentrwch allan dim ond os yw’n gwbl angenrheidiol,” medd neges ar dudalen Twitter yr heddlu.

Maen nhw hefyd yn cynghori pobol i ddilyn cyngor Cyfoeth Naturiol Cymru a Thrafnidiaeth Cymru.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cydweithio â nifer o gynghorau wrth i’r tywydd garw barhau.